Cyflyrau Rydym yn eu Trin
Pa un a oes gennych broblem newydd, neu wedi bod yn byw gyda’ch cyflwr ers blynyddoedd lawer, mae ein hystod bwrpasol o driniaethau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch anghenion. Mae Physio Môn yn trin ac yn rheoli amrywiaeth eang o anhwylderau ac anafiadau cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â chwaraeon neu alwedigaeth a rhai cyffredinol. Nid oes angen i chi weld meddyg teulu cyn trefnu apwyntiad ffisiotherapi, ac os nad ydych yn siŵr a allai ffisiotherapi eich helpu rydym yn fwy na pharod i gynghori, heb unrhyw rwymedigaeth i drefnu apwyntiad. Dyma ychydig yn unig o’r cyflyrau rydym yn eu trin yn ein clinig…
Mae poen cefn yn gyffredin iawn a bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei gael ar ryw adeg yn ystod ein bywydau. I’r mwyafrif helaeth o bobl nid yw’n cael ei achosi gan unrhyw beth difrifol ac mae’n debygol o wella ar ei ben ei hun o fewn ychydig wythnosau. Mae clunwst yn digwydd pan fydd eich nerf siatig yn llidus neu’n cael ei wasgu, gall hyn roi poen a phinnau bach i chi sy’n mynd i lawr eich coes i’ch troed. Mae’n bwysig dal ati i symud ac nid yw gorffwys yn y gwely am fwy na chwpl o ddyddiau yn cael ei argymell. Fodd bynnag, os ydych chi’n cael trafferth rheoli’ch symptomau ac yr hoffech gael triniaeth neu os hoffech gael cyngor a sicrwydd rydym yma i helpu.
Yn ystod apwyntiad gyda ni byddwch yn gyntaf yn cael asesiad llawn lle byddwn yn cymryd amser i holi am y boen a sut mae’n effeithio arnoch chi. Yna byddwn yn asesu symudiadau eich cefn, cryfder eich cyhyrau a gweithrediad y nerfau. Byddwn yn gallu esbonio’r rheswm dros eich symptomau ac yn creu cynllun triniaeth ar eich cyfer. Gall y driniaeth gynnwys technegau â llaw yn ogystal â phresgripsiynau ymarfer corff wedi’u teilwra ar eich cyfer. Byddwn yn sicrhau eich bod yn mynd adref gyda gwell dealltwriaeth o’ch problem, a chynllun o’r hyn y gallwch ei wneud i helpu’ch hun.
Yn gyffredinol, mae anafiadau chwiplach yn cael eu hachosi pan mae’r gwddf yn symud yn sydyn, e.e. ar ôl damwain traffig ar y ffordd, mae poen ac anystwythder yn aml yn cael ei deimlo ychydig oriau’n ddiweddarach, neu’r diwrnod canlynol. Y rhan fwyaf o’r amser bydd hyn yn gwella ar ei ben ei hun, fodd bynnag, os ydych chi’n cael trafferth rheoli’ch symptomau ac yr hoffech gael triniaeth neu os hoffech gael cyngor a sicrwydd rydym yma i helpu.
Yn ystod apwyntiad gyda ni byddwch yn gyntaf yn cael asesiad llawn lle byddwn yn cymryd amser i holi am y boen a sut mae’n effeithio arnoch chi. Yna byddwn yn asesu symudiadau eich gwddf, cryfder eich cyhyrau a gweithrediad y nerfau os oes angen. Byddwn yn gallu esbonio’r rheswm dros eich symptomau ac yn creu cynllun triniaeth ar eich cyfer. Gall y driniaeth gynnwys technegau â llaw yn ogystal â phresgripsiynau ymarfer corff a chyngor am ystum wedi’u teilwra ar eich cyfer. Byddwn yn sicrhau eich bod yn mynd adref gyda gwell dealltwriaeth o’ch problem, a chynllun o’r hyn y gallwch ei wneud i helpu’ch hun.
Mae tîm Physio Môn i gyd yn mwynhau chwaraeon yn cynnwys rhedeg, cerdded, padl-fyrddio, beicio ac ychydig o ddringo, felly rydyn ni wedi cael ein cyfran deg ein hunain o anafiadau chwaraeon ac yn gwybod pa mor rhwystredig yw hi pan mae anaf yn eich llorio. Efallai bod sigiad ar eich ffêr yn eich atal rhag rhedeg neu na allwch chwarae golff oherwydd anaf i’ch ysgwydd, beth bynnag yw’r broblem, beth am drefnu apwyntiad i weld sut all ein cyngor a’n triniaeth arbenigol eich helpu i fynd yn ôl i wneud yr hyn rydych chi’n ei fwynhau fwyaf. Os ydych chi’n mwynhau cerdded beth am edrych ar ein tudalen Cerddwyr Môn yma i weld sut allwch chi gymryd rhan.
Rydym wedi hen arfer trin pob math o anafiadau pen-glin yn y clinig, o blant â phoen pen-glin ar ôl pwl o dyfu i redwyr ag anafiadau pen-glin, o ben-gliniau arthritig a phopeth arall. Mae yna lawer o ffactorau sy’n achosi poen pen-glin a bydd asesiad ffisiotherapi yn cynnwys asesu’r cymal, y cyhyrau, y gewynnau a’r cartilag er mwyn nodi achos mwyaf tebygol y broblem. Mae gennym ddegawdau o brofiad o asesu a thrin pob math o boen pen-glin a byddwn yn gallu argymell cynllun triniaeth sy’n addas i chi. Gall hyn gynnwys therapi â llaw, therapi meinwe meddal, tapio, uwchsain, aciwbigo a rhaglen ymarfer corff gartref.
Mae llid ar y penelin (tennis elbow) yn boen a deimlir y tu allan i’r penelin ac fel arfer nid oes ganddo ddim i’w wneud â chwarae tennis! Gall ddigwydd ar ôl cyfnodau o orddefnydd parhaus megis paentio neu forthwylio. Bydd asesiad ffisiotherapi yn cynnwys archwiliad trylwyr o’r penelin a’r fraich gyfan, gan gynnwys y gwddf yn aml oherwydd gall hyn hefyd achosi poen yn y penelin. Byddwn yn egluro’r diagnosis i chi ac yn trafod cynllun triniaeth. Un o’r pethau pwysicaf pan fydd gennych lid ar y penelin yw osgoi’r gweithgareddau sy’n gwaethygu’r boen – ac nid yw hyn bob amser yn hawdd! Gallwn roi cyngor i chi am ffyrdd i wneud hyn yn ogystal ag unrhyw gymhorthion y gallech roi cynnig arnynt. Mae triniaeth ffisiotherapi yn cynnwys technegau ymarferol a chynllun ymestyn a chryfhau sydd wedi’i gynllunio i wella symptomau mewn ffordd ddi-boen. Mae aciwbigo hefyd yn ddewis triniaeth arall y gellir ei drafod ac mae’n gweithio’n dda wrth drin y cyflwr hwn.
Mae llid y ffasgell yn achosi poen yn y sawdl ac o dan bont y droed. Mae’r boen fel arfer ar ei waethaf pan fyddwch chi’n dechrau cerdded ar y droed ar ôl cyfnod o orffwys, fel y peth cyntaf yn y bore ar ôl codi o’r gwely. Fel arfer mae’r boen yn gwella ar ôl i chi ddechrau cerdded o gwmpas. Awgrym syml y gallwch chi roi cynnig arno sy’n aml yn helpu yw rhoi potel o ddŵr yn y rhewgell nes ei bod yn rhewi ac yna rholio’r botel oer o dan wadn eich troed tra’ch bod chi’n eistedd i lawr – mae hyn yn helpu i dylino’r cyhyrau o dan y droed a lleihau llid.
Bydd asesiad ffisiotherapi yn cynnwys asesiad trylwyr o’r droed a’r goes i sicrhau mai llid y ffasgell sy’n achosi eich symptomau. Mae dewisiadau triniaeth yn cynnwys technegau ymarferol fel tylino meinwe meddal y droed a chyhyr croth y goes, gall tapio i drin strwythurau hefyd fod yn effeithiol iawn. Byddwn hefyd yn dysgu ffyrdd i chi ymestyn a chryfhau’r cyhyrau amgylchynol ac yn trafod esgidiau. Mae aciwbigo hefyd yn opsiwn triniaeth ar gyfer y cyflwr hwn.
Fel arfer mae torasgwrn yn cael ei reoli gyda chast am yr wythnosau cyntaf. Ar ôl tynnu’r cast mae’r gwaith caled o adfer yn dechrau, a dyna pryd allwn ni helpu. Pa un a ydych wedi torri’ch arddwrn, eich ffêr neu rywbeth arall, byddwch fel arfer wedi bod mewn plastr am ychydig wythnosau a phan fydd y plastr yn cael ei dynnu bydd y fraich neu’r goes yn stiff ac yn wan, mae ffisiotherapyddion yn arbenigwyr ar helpu i adfer pobl yn ôl i iechyd da.
Yn Physio Môn rydym yn adnabod y meddygon ymgynghorol orthopedig lleol ac mae gennym berthynas waith dda gyda nhw. Gallwn ddarparu cymaint neu gyn lleied o help ag sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gyflawni eich nodau.
Problemau ysgwydd yw un o’r cyflyrau yr ydym yn eu trin fwyaf yn y clinig ac mae yna lawer o wahanol achosion fel anafiadau i’r llawes troëdydd (rotator cuff). Mae asesiad ffisiotherapi yn cynnwys asesiad trylwyr o gymal yr ysgwydd a’r cyhyrau o’i amgylch yn ogystal ag edrych ar y gwddf (a all weithiau gyfeirio poen) er mwyn gwneud diagnosis o’r broblem. Yna, byddwn yn gallu trafod eich diagnosis a llunio cynllun triniaeth a allai gynnwys technegau ymarferol fel therapi â llaw, tylino meinwe meddal, cynlluniau ymarfer corff wedi’u teilwra, tapio neu aciwbigo. Un o’r cyflyrau ysgwydd mwyaf cyffredin yw ysgwydd wedi fferru, nodweddir hyn gan boen ac anystwythder a all bara am fisoedd lawer, weithiau’n hirach. Gall hyn fod yn anodd ei reoli, bydd eich ffisiotherapydd yn gallu esbonio’r diagnosis yn llawn i chi a’ch dysgu sut i helpu’ch hun i wella cyn gynted â phosibl ynghyd â darparu triniaeth i leihau poen a helpu i wella symud.
Mae menywod yn aml yn profi poen a phroblemau cyhyrysgerbydol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â beichiogrwydd, cyn geni ac ar ôl geni. Gall rhai o’r problemau hyn rwystro symudiad arferol yn ystod beichiogrwydd, a gallant barhau ar ôl geni gan ei gwneud yn anodd ymdopi â baban newydd-anedig a dychwelyd i weithgaredd normal. Mae’n hawdd iawn diystyru problemau cyhyrysgerbydol fel rhan o feichiogrwydd yn unig. Fodd bynnag, gellir gwella rhai cyflyrau a symptomau yn sylweddol, a gellir datrys rhai yn gyfan gwbl hyd yn oed, gyda’r driniaeth gywir. Rydym yn cynnig gwasanaeth adsefydlu Cynenedigol ac Ôl-enedigol. Os ydych chi’n cael trafferth gydag unrhyw un o’r problemau canlynol, cysylltwch â ni a gadewch i ni helpu:
Poen gwregys pelfig (a elwir hefyd yn boen SPD)
Diastasis rectus abdominus (bwlch rhwng cyhyrau eich bol)
Poen cefn
Problemau llawr y pelfis
Yn cael trafferth mynd yn ôl i ymarfer corff ar ôl geni’r babi, neu ddim yn siŵr pryd neu sut i fynd ati ac eisiau cyngor.
Ar hyn o bryd, dim ond ar ddydd Gwener mae’r sesiynau hyn ar gael.
Os ydych wedi cael llawdriniaeth orthopedig yn ddiweddar gallwn eich helpu i adfer. Mae tîm Physio Môn wedi gweithio’n agos gyda’r holl lawfeddygon orthopedig lleol am nifer o flynyddoedd ac maen nhw yn brofiadol iawn mewn trin cleifion ôl-driniaethol. Felly pa un a ydych chi newydd gael pen-glin newydd, llawdriniaeth ar eich ysgwydd neu lawdriniaeth clun, gallwn eich helpu ar eich taith i adferiad. Rydym yn darparu apwyntiadau hyblyg yn ystod dyddiau’r wythnos, gyda’r nos ac ar benwythnosau a gallwn roi cymaint o gymorth ag sydd ei angen arnoch.
Gall poen clun gael effaith go iawn ar ansawdd eich bywyd a’ch gallu i fynd allan. Dau o achosion mwyaf cyffredin poen clun yw arthritis ac ardrawiad y glun, a gellir helpu’r ddau ohonynt gyda ffisiotherapi fel arfer. Mae asesiad ffisiotherapi trylwyr yn cynnwys asesu cymal y glun, y cyhyrau amgylchynol a rhan isaf y cefn (a all yn aml gyfeirio poen). Yna byddwn yn egluro achos eich symptomau a’r hyn y gellir ei wneud yn ei gylch. Gall y driniaeth gynnwys technegau â llaw a chynllun ymarfer corff cartref wedi’i deilwra.
Poen cronig yw poen parhaus sy’n para y tu hwnt i’r amser y byddai’n cymryd i’r meinweoedd wella. Gall poen cronig fod yn anodd ei reoli a gall gael effaith ar sawl rhan o’ch bywyd. Gallwn eich helpu i ddeall sut mae poen yn gweithio a all yn ei dro eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros eich bywyd. Gallwn helpu i ddysgu technegau fel camu, i’ch helpu i reoli’ch poen a dylunio rhaglenni ymarfer corff wedi’u teilwra ar lefel addas i’ch helpu i gyflawni’ch nodau. Ein nod yw hyrwyddo hunanreolaeth a’ch helpu i gyrraedd pwynt lle gallwch chi reoli’ch symptomau eich hun heb fod angen apwyntiadau rheolaidd.