Cwrdd â’r Tîm
Yma yn Physio Môn rydym yn ffodus i gael tîm o Ffisiotherapyddion Siartredig profiadol, ymroddedig a chymwys iawn. Gyda dros 50 mlynedd o brofiad o drin cleifion rhyngom ni – rydych yn gwybod eich bod mewn dwylo diogel. Mae gan bob un o’n staff swyddi uwch arbenigol yn y GIG ac maent yn aelodau o’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP) a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Cliciwch isod i gael gwybod mwy am bob aelod o’r tîm a’u diddordebau arbennig.