Clinig Physio Môn
Ym mis Ebrill 2020 fe symudon ni o’n hen glinig ym Modffordd i’n clinig newydd anhygoel wedi’i leoli ym Mharc Mount, Ffordd Glanhwfa, Llangefni. Mae yna ddigonedd o le i barcio yn union y tu allan i’r clinig ac mae’n gwbl hygyrch i bobl anabl. Rydym yn cynnig apwyntiadau yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau ac fel arfer gallwn gynnig apwyntiad i chi cyn pen ychydig ddyddiau ar ôl y cyswllt cyntaf.
Gwybodaeth ynghylch Covid 19
Mae’r clinig yn gallu parhau ar agor er gwaetha’r cyfnod clo, gyda mesurau Covid llym ar waith. Rydym yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae yna hefyd apwyntiadau fideo ar gael os yw’n well gennych neu os ydych chi’n hunanynysu neu’n methu â dod i’r clinig am unrhyw reswm.
Wrth drefnu apwyntiad, mae ein holl gleifion yn cael gwybodaeth ynglŷn â’r gweithdrefnau COVID sydd gennym ar waith fel eich bod yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl cyn i chi ddod i’r clinig. Byddwch hefyd yn cael holiadur sgrinio COVID cryno y gallwch ei gwblhau ar-lein. Peidiwch â dod i’r clinig heb apwyntiad neu os oes gennych unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â COVID fel tymheredd uchel, peswch newydd neu barhaus neu os ydych wedi colli eich synnwyr blasu neu arogli. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi cyn gofyn. Dyma ychydig enghreifftiau o’r adborth rydym wedi ei gael yn ddiweddar ynghylch ein mesurau COVID:
”Trefniadau gwych o ran Covid. Gwasanaeth proffesiynol rwy’n ei argymell yn fawr…” J. Evans, adolygiad Facebook
”Roeddwn i’n teimlo bod fy apwyntiad yn gwbl ddiogel o ran Covid a’i fod wedi’i gynnal mewn modd proffesiynol iawn…” C. Coventry, adolygiad ar Google
”Rhoddwyd croeso cynnes i mi ac roeddwn yn teimlo’n ddiogel…” J. Dowell, adolygiad ar Facebook
“Gwnaeth yr holl ragofalon COVID i mi deimlo’n hollol ddiogel…” P. Morgan, adolygiad ar Google
Cyfeiriad y Clinig
Clinig Ffisiotherapi Physio Môn
Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
Gogledd Cymru
LL77 7EY
Ffoniwch: 07388531839
Llywio â lloeren: LL77 7EY
Oriau Agor
Dydd Llun | 8.00AM | 5.00PM |
Dydd Mawrth | 8.00AM | 7.00PM |
Dydd Mercher | 8.00AM | 6.00PM |
Dydd Iau | 8.00AM | 6.00PM |
Dydd Gwener | 8.00AM | 5.00PM |
Dydd Sadwrn | 8.00AM | 5.00PM |
Dydd Sul | Ar gau |