Mae Felicity wedi bod yn ffisiotherapydd ers dros 30 mlynedd ac mae’n byw ar Ynys Môn gyda’i theulu. Mae’n mwynhau cerdded a chadw’n egniol.
Hyd at Ebrill 2020 roedd Felicity hefyd yn gweithio yn y GIG, yn union fel Esther a Lucy, ond ar ôl ymddeol o’r swydd honno’n ddiweddar mae bellach yn rhydd i fwynhau ei hobïau, yn ogystal â chanolbwyntio ar ei gwaith yn y clinig y mae hi’n ei fwynhau’n ofnadwy. Ymunodd â theulu Physio Môn yn ystod haf 2018. Mae hi’n arbenigo ym mhopeth sy’n ymwneud â’r system gyhyrysgerbydol (y cymalau a’r cyhyrau ac ati), mae’n gaffaeliad mawr i’n tîm hefyd!
Bydd ei natur ddigynnwrf ac addfwyn yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol a chyda’i chyfoeth o wybodaeth a blynyddoedd o brofiad gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod mewn dwylo diogel!
“As always Felicity was extremely professional and such a lovely person. Thank you.”
Nia
- Facebook Review
Cwrdd â’r Tîm
Ein Ffisiotherapyddion
Yma yn Physio Môn rydym yn ffodus i gael tîm o Ffisiotherapyddion Siartredig profiadol, ymroddedig a chymwys iawn