Mae Suzie wedi cymhwyso ers 2004 ac wedi gweithio fel ffisio yma yn y DU ac yn Seland Newydd. Mae hi’n brofiadol iawn mewn trin yr holl ddoluriau, poenau ac anafiadau cyhyrysgerbydol ac mae hefyd wedi gweithio fel ffisiotherapydd hemoffilia arbenigol clinigol ers sawl blwyddyn. Yn ogystal â gweithio yma yn Physio Môn, mae Suzie bellach yn parhau i weithio yn adran ffisiotherapi cleifion allanol brysur y GIG. Yn ei hamser hamdden mae wrth ei bodd yn teithio gyda’i theulu ifanc a chadw’n heini.
Cwrdd â’r Tîm
Ein Ffisiotherapyddion
Yma yn Physio Môn rydym yn ffodus i gael tîm o Ffisiotherapyddion Siartredig profiadol, ymroddedig a chymwys iawn