Physio Môn

Anafiadau Chwaraeon

Anafiadau Chwaraeon

Mwy am Anafiadau Chwaraeon

Mae tîm Physio Môn i gyd yn mwynhau chwaraeon yn cynnwys rhedeg, cerdded, padl-fyrddio, beicio ac ychydig o ddringo, felly rydyn ni wedi cael ein cyfran deg ein hunain o anafiadau chwaraeon ac yn gwybod pa mor rhwystredig yw hi pan mae anaf yn eich llorio. Efallai bod sigiad ar eich ffêr yn eich atal rhag rhedeg neu na allwch chwarae golff oherwydd anaf i’ch ysgwydd, beth bynnag yw’r broblem, beth am drefnu apwyntiad i weld sut all ein cyngor a’n triniaeth arbenigol eich helpu i fynd yn ôl i wneud yr hyn rydych chi’n ei fwynhau fwyaf. Os ydych chi’n mwynhau cerdded beth am edrych ar ein tudalen Mon Walkers yma i weld sut allwch chi gymryd rhan.

Cyflyrau

Cyflyrau Eraill Rydym yn Trin

P’un a oes gennych broblem newydd, neu wedi bod yn byw gyda’ch cyflwr ers blynyddoedd lawer, mae ein hystod o driniaethau pwrpasol wedi’u teilwra’n union i’ch anghenion.