Aciwbigo
Beth ydi aciwbigo
Aciwbigo yw un o’r ffurfiau hynaf o feddygaeth. Dechreuwyd ei ddefnyddio yn Tsieina dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mewn theori draddodiadol Tsieineaidd mae egni’r corff yn aros yn ei unfan pan fydd problem. Mae ysgogi’r egni gan nodwyddau therapi yn rhyddhau’r llif ac yn helpu’r corff i adfer ei hun i gyflwr iach.
Dengys ymchwil bod y driniaeth yn rhyddhau cemegolion lleddfu poen naturiol sy’n cael eu storio yn yr ymennydd (endorffinau). Mae’r cemegolion hyn yn cynorthwyo’r corff i iacháu yn ogystal â lleddfu’r boen.
Mae aciwbigo ar gael yn y clinig gydag Esther yn unig.
Aciwbigo
Gall aciwbigo helpu gyda’r cyflyrau canlynol:
- Problemau gyda’r cyhyrau/cymalau
- Anafiadau Acíwt/Cronig
- Poen
- Arthritis
- Poen Cefn a Gwddf
- Anafiadau Chwaraeon
- Cur pen
Cyflyrau
Gwasanaethau Eraill
Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau triniaeth ffisiotherapi ar gyfer nifer o gyflyrau.