Yn Physio Môn rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o driniaethau a ddarperir naill ai wyneb yn wyneb o’n clinig yn Llangefni neu o bell drwy apwyntiad fideo gan ddefnyddio ein platfform pwrpasol a diogel ein hunain. Nid oes angen lawrlwytho unrhyw beth na nodi unrhyw ddata i gael mynediad at hyn a bydd dolen yn cael ei e-bostio’n awtomatig atoch wrth archebu.

Wyneb yn wyneb

Apwyntiad newydd

Cost yr apwyntiad hwn yw £60 ac mae’n para tua 45 munud. Mae hyn yn cynnwys asesiad cynhwysfawr, diagnosis, trafodaeth am opsiynau triniaeth, triniaeth a chynllun ymarfer corff pwrpasol yn y cartref. I weld argaeledd ac i archebu cliciwch y linc isod

Wyneb yn wyneb

Apwyntiad adolygu

Mae apwyntiadau dilynol yn costio £50 ac yn para tua 30 munud. Mae hyn yn cynnwys ailasesu, trin ac adolygu’r cynllun ymarfer corff yn y cartref os oes angen.

Drwy Gyswllt fideo

Apwyntiad rhithiol

Mae apwyntiadau fideo yn costio £50 ac maent ar gael o bell drwy ein platfform pwrpasol, diogel ein hunain. Nid oes angen lawrlwytho unrhyw beth na nodi unrhyw ddata i gael mynediad at hyn a bydd dolen yn cael ei e-bostio’n awtomatig atoch wrth archebu.

Gellir talu gyda cherdyn neu arian parod ar ddiwedd yr apwyntiad. Rhaid talu am apwyntiadau rhithiol drwy fideo drwy BACS cyn yr apwyntiad (bydd manylion yn cael eu hanfon trwy e-bost atoch).

Rydym angen 24 awr o rybudd am unrhyw ganslo neu gallai taliadau fod yn berthnasol